Beth rydyn ni’n ei wneud

O ddirywiad i adfywiad

Croeso i dirlenwi gwyllt, y prosiect arloesol sy’n torri tir newydd drwy droi safleoedd gwastraff tirlenwi a glaswelltir sydd wedi’i wella o’u hamgylch yn weirgloddiau blodau gwylltion, llecynnau sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, coetiroedd newydd, pyllau dŵr newydd a chlytwaith o gynefinoedd, dalfeydd carbon a chanolfannau addysgol. Ynghyd â hyn oll, mae ein pedwar safle yn puro dŵr, yn helpu i leihau llifogydd, yn creu llain o dir heb ffensys na rhwystrau sy’n galluogi adfywiad rhyfeddol o ran natur a’r amgylchedd, gan wella ansawdd aer ac ymgysylltu ag ysgolion a phartneriaid o bob rhan o gymdeithas.



Rydyn ni wedi creu adnodd addysgol unigryw a blaengar sy’n galluogi myfyrwyr, ysgolion a’r gymuned yn gyffredinol i ddod yn rhan o bethau a gwneud gwahaniaeth. Mae’r argyfryngau newid hinsawdd a natur yn broblem fyd-eang sy’n dechrau gyda gweithredu lleol. Mae’r prosiect hwn yn alwad ar i bobl weithredu i sicrhau rheolaeth gynaliadwy dros adnoddau naturiol drwy roi arbenigedd ar waith i newid defnydd safleoedd gwastraff diwydiannol er lles cenedlaethau’r dyfodol a rhai heddiw yng Nghymru.

Beth?

 

Prosiect arloesol ydy Tirlenwi Gwyllt sy’n trawsnewid ac yn adfer safleoedd tirlenwi gynt a’r ardal o’u hamgylch i greu cynefinoedd cyfoethog ac amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt.

Sut?

 

Mae’r adnoddau tirlenwi yn cael eu capio a chynefinoedd yn cael eu sefydlu arnynt. Yn eu plith mae gweirgloddiau blodau gwylltion, rhostiroedd, gwlyptiroedd a choetiroedd. Caiff clytwaith o gynefinoedd newydd ei greu yn yr ardal gyfagos, gan wella bioamrywiaeth, gwella cysylltedd ar draws y dirwedd, creu noddfeydd ar gyfer bywyd gwyllt a chynyddu dalfeydd carbon.

Pam?

 

Mae newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth yn heriau byd-eang i genedlaethau heddiw a’r dyfodol. Nod Tirlenwi Gwyllt ydy darparu datrysiadau lleol i wella’r rhain. Ymrymuso pobl Cymru i ddeall y problemau yn well a helpu i wneud gwir wahaniaeth drwy adfer natur a’r amgylchedd.

Ein Tîm

 

Dyma gyflwyno rhai o aelodau’r tîm sy’n gwneud i hyn ddigwydd.

Mae Tirlenwi Gwyllt yn gwneud defnydd o arbenigedd a gwybodaeth y sefydliadau partner er mwyn dod â’r prosiect rhyfeddol hwn yn fyw.

Tony Roberts (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Andy Kehoe (Kehoe Countryside Ltd)
Stuart Kato (Ecoscope Ltd)
Dr Richard Birch (Ecoscope Ltd)
Jen Towill (Ecolegydd Annibynnol)
Dave Thorpe (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Jim Langley (Nature’s Work)

Tony Roberts o Gyfoeth Naturiol Cymru roddodd gychwyn ar y prosiect blaengar hwn drwy Gronfa Her Llywodraeth Cymru a Chynghorau Gwynedd a Môn, gyda chydweithio’n digwydd ar draws ystod o bartneriaethau a rhanddeiliaid.

Ein Partneriaid

Rydyn ni ar Restor

Rhwydwaith byd-eang ar gyfer adfer natur


Mae miloedd o gymunedau lleol, cyrff anllywodraethol, llywodraethau, a busnesau yn rhannu ac yn monitro eu prosiectau ar Restor, y rhwydwaith mwyaf o safleoedd cadwraeth ac adfywio yn y byd.

 

Gwelwch ni yma

Ein Heffaith

Rydyn ni wedi creu gwell yfory i Gymru, ei hnsawdd, ei chymunedau a’i hamgylchedd naturiol.

45,000

o goed wedi’u plannu. Y goeden iawn yn y man iawn.

4

safle tirlenwi wedi’u trawsnewid yn warchodfeydd natur

100

acer o weirgloddiau blodau gwylltion

20

o byllau dŵr, pyllau tymhorol ac ardaloedd o wlyptir

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson.