Dan sylw

Mae’r argyfyngau newid hinsawdd a bioamrywiaeth yn heriau byd-eang. Mae Tirlenwi Gwyllt yn ddatrysiad sy’n seiliedig ar natur ar gyfer Cymru a’r byd.

Dysgu

Dysgwch y ffeithiau am y testun hwn a sut rydyn ni’n helpu.

Cymryd rhan

Gall pob un ohonom wneud ein rhan. Canfyddwch bethau bychain y gallwch chi eu gwneud i helpu.

Rhannu

Rhowch wybod i’ch rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol am yr achos pwysig hwn.

Tanysgrifio

Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf y prosiectau.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n troi tiroedd sydd wedi’u llenwi â gwastraff yn ddalfeydd carbon, llecynnau cyfoethog o ran bioamrywiaeth a chynefinoedd cysylltiedig lle gall natur ffynnu.

Mae newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth yn heriau byd-eang i genedlaethau heddiw a’r dyfodol. Nod tirlenwi gwyllt ydy darparu datrysiadau lleol i’r heriau byd-eang hyn gan ymrymuso pobl Cymru i ddeall y broblem yn well a helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae tirlenwi gwyllt yn fan cychwyn gwych wrth i ni geisio lleihau effaith safleoedd diwydiannol ar yr amgylchedd a’r hinsawdd, gan droi tir a oedd wedi dirywio ac wedi’i lygru yn hanesyddol yn nifer o gynefinoedd amrywiol, ecolegol gyfoethog ar gyfer adfer bywyd gwyllt a storio carbon. Rydyn ni’n gwella tir hefyd ar gyfer peillwyr sy’n hanfodol i gynhyrchu bwyd ledled y byd, ac yn creu nifer o ardaloedd dyfrol newydd, sef asgwrn cefn unrhyw ecosystem gyfoethog.

Rydyn ni wedi cymryd 4 safle tirlenwi sy’n cynnwys miliynau o dunelli o’n gwastraff ac wedi eu troi yn llecynnau ecolegol cyfoethog, gan wella bioamrywiaeth, creu noddfeydd i fywyd gwyllt a chynyddu faint o garbon sy’n cael ei storio yn y coed a’r priddoedd yn y safleoedd tirlenwi ac o’u hamgylch. Rydyn ni wedi creu gwell amgylchedd ar gyfer natur ac ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol, sy’n cyd-fynd â Deddf Amgylchedd arloesol 2016 Llywodraeth Cymru.


Gwyliwch raglen ddogfen Tirlenwi Gwyllt yn llawn yma...

 

Dewch i ni weithredu nawr er mwyn diogelu dyfodol ein planed

Oeddech chi’n gwybod?

2.01 biliwn o dunelli
Mae’r byd yn cynhyrchu 2.01 biliwn o dunelli o wastraff trefol solet yn flynyddol

1.3 biliwn o dunelli
Yn fyd-eang, rydyn ni’n rhoi cymaint ag 1.3 biliwn o dunelli o wastraff mewn safleoedd tirlenwi yn flynyddol, ac mae rhagolygon y bydd hynny’n cynyddu i 2.2 biliwm o dunelli erbyn 2025.

400kg o wastraff
Ar gyfartaledd, mae pob unigolyn yn y Deyrnas Unedig yn taflu tua 400kg o wastraff bob blwyddyn.

Cymryd rhan

Beth galla i ei wneud i helpu i achub y blaned? Mae camau bychain yn gallu arwain at ganlyniadau mawrion os gwnawn ni i gyd weithio gyda’n gilydd.

Mae’r argyfyngau newid hinsawdd a natur yn heriau byd-eang anferthol sy’n gallu ein llethu ni weithiau, ond gallwn ni i gyd wneud ein rhan. Dyma rai pethau bychain y gallwch chi eu gwneud i helpu.

Lleihau gwastraff bwyd

Mae tua 30% o’r holl fwyd yn y Deyrnas Unedig yn cael ei daflu i ffwrdd. Mae hyn yn ofnadwy o safbwynt yr hinsawdd, bioamrywiaeth a phwysau ar ddefnydd tir. Gallwch chi helpu drwy leihau eich gwastraff bwyd drwy wneud y pethau canlynol.

• Prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig.
• Bwytwch bopeth y byddwch yn ei brynu.
• Dewiswch opsiynau sy’n hinsawdd-gyfeillgar a natur-gyfeillgar.

Plannu coeden

Mae pawb yn hoff iawn o goed, maen nhw’n hollbwysig yn ein brwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth. Maen nhw’n darparu gwell ansawdd aer a dŵr glân ynghyd â llu o fanteision eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Choed Cadw ac yn darparu coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru.

Cael eich coeden am ddim
Lleihau defnydd o ynni

Mae angen i ni i gyd ddefnyddio llai o ynni gan fod hyn yn cyfrannu carbon yn uniongyrchol i’r atmosffêr ac yn achosi cynhesu byd-eang. Os gwnawn ni’r pethau canlynol, gallwn wneud gwahaniaeth.

• Diffoddwch oleuadau a chyfarpar nad ydych yn eu defnyddio.
• Mae angen andros o lot o ynni i ferwi dŵr. Mesurwch faint o ddŵr rydych yn bwriadu ei ddefnyddio a pheidiwch â berwi dim mwy.
• Trowch eich thermostat i lawr.
• Treuliwch lai o amser yn y gawod.
• Defnyddiwch gylch golchi oerach lle bo modd.

Creu gardd natur

• Ailwylltiwch ran o’ch gardd drwy ganiatáu iddi dyfu’n naturiol.
• Plannwch flodau gwylltion a phlanhigion sy’n denu pryfed a gwenyn.
• Ychwanegwch nodwedd ddŵr i’ch gardd, beth bynnag fo’i faínt, mae hyn yn wych ar gyfer bywyd gwyllt.
• Crëwch noddfa i fywyd gwyllt drwy bentyrru canghennau pren a defnyddio gwestai trychfilod.

Rhagor o gynghorion yma
Lleihau gwastraff plastig

• Defnyddiwch lai o blastig untro.
• Osgowch gynnyrch sy’n cynnwys microblastigion.
• Peidiwch â phrynu dŵr potel, mae dŵr tap lawn cystal ac mae am ddim. 

• Prynwch gwpan coffi ailddefnyddiadwy. 

• Gwaredwch unrhyw wastraff plastig yn gyfrifol.
• Ymunwch â grŵp casglu sbwriel lleol.
• Anogwch eich ffrindiau ac aelodau’ch teulu i wneud yr un peth.

Rydyn ni ar restor

Mae’r Prosiectau Tirlenwi Gwyllt ym Môn a Gwynedd wedi’u cydnabod fel rhai sydd o safon aur byd-eang gan Restor, y rhwydwaith byd-eang ar gyfer adfer natur.

Gwelwch ni yma

o dunelli o wastraff wedi’u taflu’n fyd-eang eleni

Dolen i’r Ffynhonnell

Ein safleoedd

Penhesgyn

Mynd i'r safle
Clegir Mawr

Mynd i'r safle
Llwyn Isaf

Mynd i'r safle
Ffridd Rasus

Mynd i'r safle
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson.