Safle

Ffridd Rasus

Mae Safle Tirlenwi Ffridd Rasus i’w weld 2 filltir i’r gogledd-ddwyrain o dref brydferth Harlech a’i chastell yng Ngwynedd. Mae yno 2 safle tirlenwi sydd wedi’u cau a ddechreuodd dderbyn gwastraff i’w gladdu yn 1981 ac sy’n cynnwys tua 1.26 miliwn o dunelli o wastraff y cartref a masnachol. Mae’r safle tirlenwi yn gyfochrog ag ardal o laswelltir asidaidd prin sy’n ffurfio gweddill y 79 acer ar y safle amrywiol hwn.

Mae dros 5,000 o goed wedi’u plannu ar y safle a nifer o gynefinoedd wedi’u creu ar draws wyneb y safle tirlenwi gydag oddeutu 40 acer o weirglodd blodau gwylltion a chynefin o brysgwydd cymysg. Mae cyfres o byllau dŵr mawr sydd wedi’u cysylltu wedi’u creu yn y lagŵn draenio sych sydd wedi’i leinio â naddion llechi. Oherwydd nad oedd unrhyw ddŵr yn casglu yn y safle o’r blaen, mae hyn wedi arwain at ffrwydrad o fywyd o gwmpas y nodweddion hyn a chynnydd mewn bioamrywiaeth a niferoedd bywyd gwyllt ar draws y safle. Mae nifer o flychau adar ac ystlumod ar y safle ac mae polyn nythu i Weilch ger terfyn gorllewinol y safle.

Oeddech chi’n gwybod...

 

Mae gwrychoedd a choetiroedd yn darparu bwyd a chysgod i lawer o rywogaethau, maen nhw hefyd yn gweithio fel coridorau hanfodol i fywyd gwyllt gael teithio. Rydyn ni wedi plannu coed a llwyni gwrychoedd mewn mannau penodol er mwyn helpu i gysylltu lleiniau o gynefinoedd. Rydyn ni hefyd wedi gosod 25 o flychau adar, 25 o flychau ystlumod a 2 lwyfan i Weilch.

Amcangyfrifir bod 97% o weirgloddiau sy’n gyfoethog o ran blodau gwylltion wedi cael eu dinistrio ers y 1930au. 20 acer o laswelltir asidig wedi’u diogelu, gan greu carped o blanhigion sy’n blodeuo sy’n unigryw i’r ardal hon; mae’r rhain yn hanfodol i fywyd gwyllt gan gynnwys gwenyn, adar, glöynnod byw a thrychfilod.

Mae coetiroedd cynhenid yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Mae darparu cynefinoedd hanfodol newydd i natur gael ffynnu ynddynt yn hollbwysig. Rydyn ni wedi creu nifer o ardaloedd cynefin newydd ac wedi plannu’r ‘goeden iawn yn y man iawn’ - mae dros 5,000 o goed a llwyni gwrychoedd wedi’u plannu ar draws y safle er mwyn helpu i gloi carbon, lleihau llygredd a gwella faint o ddŵr a gedwir ar y safle i helpu i atal llifogydd.

Mae hanner miliwn o byllau dŵr Prydain wedi’u colli dros y can mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi creu cynefinoedd gwlyptir newydd sy’n amrywio o ran dyfnder ac wedi ailbroffilio’r suddfannau dŵr oedd yno. Mae ein pyllau dŵr yn adnodd bioamrywiaeth unigryw ac yn gyfoethog o ran rhywogaethau planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac amffibiaid.

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson.