Safle
Penhesgyn
Safle Tirlenwi Penhesgyn ydy’r mwyaf o bedwar safle Tirlenwi Gwyllt ac mae wedi’i leoli 2km i’r gogledd-orllewin o Borthaethwy ar Ynys Môn. Mae’n gorchuddio tua 50 acer a chafodd ei lenwi â hyd at 4 miliwn tunnell o wastraff o’r 1960au ymlaen.
Mae oddeutu 70 acer o dir amaethyddol wedi’i wella o safon isel o amgylch y safle sy’n rhan o’r prosiect tirlenwi gwyllt, felly mae cyfanswm o 120 acer yn ffurfio clytwaith newydd o gynefinoedd bioamrywiol heb ffensys, gan gynnwys 50 acer o weirglodd blodau gwylltion, 13 pwll dŵr newydd a nodweddion gwlyptir a 25,000 o goed newydd. Mae’r coed a’r llwyni ym Mhenhesgyn wedi’u plannu mewn system o ‘lennyrch a rhodfeydd’ sy’n galluogi rhagor o dyfiant naturiol, a chreu cynefin ymylol allweddol a llecynnau agored gydag ynysoedd prysgwydd sydd mor bwysig i adferiad natur.
Mae mawnog sy’n gyfoethog o ran carbon yn cael ei gwarchod fel rhan o’r prosiect er mwyn atal rhagor o fawn sych rhag cael ei golli ac i ddiogelu a gwella’r safle a lleihau faint o garbon sy’n cael ei ryddhau gan helpu tuag at dargedau newid hinsawdd.
Oeddech chi’n gwybod...
Mae gwrychoedd a choetiroedd yn darparu bwyd a chysgod i lawer o rywogaethau, maen nhw hefyd yn gweithio fel coridorau hanfodol i fywyd gwyllt gael teithio. Rydyn ni wedi plannu coed a llwyni gwrychoedd mewn mannau penodol er mwyn helpu i gysylltu lleiniau o gynefinoedd. Rydyn ni hefyd wedi gosod blychau adar, blychau ystlumod a blychau i dylluanod gwynion.
Amcangyfrifir bod 97% o weirgloddiau sy’n gyfoethog o ran blodau gwylltion wedi cael eu dinistrio ers y 1930au. Rydyn ni wedi sefydlu 50 acer o laswelltir a gweirgloddiau blodau gwylltion sy’n hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys gwenyn, adar, glöynnod byw a thrychfilod.
Mae coetiroedd cynhenid yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Mae darparu cynefinoedd hanfodol newydd i natur gael ffynnu ynddynt yn hollbwysig. Rydyn ni wedi creu nifer o ardaloedd cynefin newydd ac wedi plannu’r ‘goeden iawn yn y man iawn’ - mae bron i 25,000 o goed a llwyni gwrychoedd wedi’u plannu ar draws y safle er mwyn helpu i gloi carbon, lleihau llygredd a gwella faint o ddŵr a gedwir ar y safle i helpu i atal llifogydd.
Mae hanner miliwn o byllau dŵr Prydain wedi’u colli dros y can mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi creu cynefinoedd gwlyptir newydd sy’n amrywio o ran dyfnder ac wedi ailbroffilio’r suddfannau dŵr oedd yno. Mae ein pyllau dŵr yn adnodd bioamrywiaeth unigryw ac yn gyfoethog o ran rhywogaethau planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac amffibiaid.