Safle

Llwyn Isaf

Mae Safle Tirlenwi Llwyn Isaf wedi’i leoli 2km i’r gogledd-orllewin o Fryncir yng Ngwynedd ac mae’n cynnwys 2 lecyn sydd wedi’u tirlenwi ers y 1980au cynnar gyda chyfanswm o oddeutu 600,000 o dunelli, a llecyn o laswelltir wedi’i wella sy’n rhoi cyfanswm o 32 acer.

Mae’r ddôl wlyb ar wyneb y safle tirlenwi wedi’i gwella a’i chyfoethogi gan arain at ffrwydrad o fywyd gwyllt toreithiog. Mae 15,000 o goed a llwyni wedi’u plannu ar laswelltir sydd wedi’i wella a thrwy ehangu gwrychoedd, gan greu clytwaith o gynefinoedd cysylltiedig ar draws y safle. Mae pedwar pwll dŵr/gwlpyptir wedi’u hychwanegu ac wedi denu toreth o rywogaethau dyfrol. Mae’r gweirgloddiau blodau gwylltion eisoes yn noddfa hynod gynhyrchiol i beillwyr a mamaliaid bychain, ac mae nifer helaeth o flychau adar ac ystlumod wedi’u gosod ar goed ar draws y safle.

Oeddech chi’n gwybod...

 

Mae gwrychoedd a choetiroedd yn darparu bwyd a chysgod i lawer o rywogaethau, maen nhw hefyd yn gweithio fel coridorau hanfodol i fywyd gwyllt gael teithio. Rydyn ni wedi plannu coed a llwyni gwrychoedd mewn mannau penodol er mwyn helpu i gysylltu lleiniau o gynefinoedd. Rydyn ni hefyd wedi gosod 25 o flychau adar, 25 o flychau ystlumod a 2 flwch i dylluanod gwynion.

Amcangyfrifir bod 97% o weirgloddiau sy’n gyfoethog o ran blodau gwylltion wedi cael eu dinistrio ers y 1930au. Rydyn ni wedi sefydlu 16.5 acer o laswelltir a gweirgloddiau blodau gwylltion sy’n hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys gwenyn, adar, glöynnod byw a thrychfilod.

Mae coetiroedd cynhenid yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Mae darparu cynefinoedd hanfodol newydd i natur gael ffynnu ynddynt yn hollbwysig. Rydyn ni wedi creu nifer o ardaloedd cynefin newydd ac wedi plannu’r ‘goeden iawn yn y man iawn’ - mae 15,000 o goed a llwyni gwrychoedd wedi’u plannu ar draws y safle er mwyn helpu i gloi carbon, lleihau llygredd a gwella faint o ddŵr a gedwir ar y safle i helpu i atal llifogydd.

Mae hanner miliwn o byllau dŵr Prydain wedi’u colli dros y can mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi creu cynefinoedd gwlyptir newydd sy’n amrywio o ran dyfnder ac wedi ailbroffilio’r suddfannau dŵr oedd yno. Mae ein pyllau dŵr yn adnodd bioamrywiaeth unigryw ac yn gyfoethog o ran rhywogaethau planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac amffibiaid.

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson.