Safle

Clegir Mawr

Mae Safle Tirlenwi Clegir Mawr wedi’i leoli 1km i’r gogledd-orllewin o bentref Gwalchmai ar Ynys Môn. Mae ganddo arwynebedd o tua 38 acer gyda’r adnodd tirlenwi a thir prysgwydd o’i amgylch a gafodd ei lenwi â miloedd o dunelli o wastraff y cartref a masnachol nes iddo gael ei gau yn y 1980au.

Nawr mae yno oddeutu 20 acer o weirglodd hyfryd sy’n llawn tegeirianau, 5,000 o goed a llwyni newydd, chwe phwll dŵr/gwlyptir newydd ac mae’n gyforiog o fioamrywiaeth. Mae’r cynnydd o ran bioamrywiaeth wedi arwain at gynnydd yn niferoedd yr ymlusgiaid megis y Neidr Ddefaid a’r Madfall Ddŵr Gribog prin, ac mae’r Barcud, y Bwncath, y Cudyll Coch, Gwalch Martin a’r Gwalch Glas wedi’u gweld yma sawl gwaith. Mae’r safle’n gyforiog o fywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol sy’n golygu ei fod yn drysorfa doreithiog ac amrywiol sy’n gallu lledu i gynefinoedd cyfagos.

Oeddech chi’n gwybod...

 

Mae gwrychoedd a choetiroedd yn darparu bwyd a chysgod i lawer o rywogaethau, maen nhw hefyd yn gweithio fel coridorau hanfodol i fywyd gwyllt gael teithio. Rydyn ni wedi plannu coed a llwyni gwrychoedd mewn mannau penodol er mwyn helpu i gysylltu lleiniau o gynefinoedd. Rydyn ni hefyd wedi gosod blychau adar, blychau ystlumod a blychau i dylluanod gwynion.

Amcangyfrifir bod 97% o weirgloddiau sy’n gyfoethog o ran blodau gwylltion wedi cael eu dinistrio ers y 1930au. Rydyn ni wedi sefydlu 20 acer o laswelltir a gweirgloddiau blodau gwylltion sy’n hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys gwenyn, adar, glöynnod byw a thrychfilod.

Mae coetiroedd cynhenid yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a cholli natur. Mae darparu cynefinoedd hanfodol newydd i natur gael ffynnu ynddynt yn hollbwysig. Rydyn ni wedi creu nifer o ardaloedd cynefin newydd ac wedi plannu’r ‘goeden iawn yn y man iawn’ - mae bron i 5,000 o goed a llwyni gwrychoedd wedi’u plannu ar draws y safle er mwyn helpu i gloi carbon, lleihau llygredd a gwella faint o ddŵr a gedwir ar y safle i helpu i atal llifogydd.

Mae hanner miliwn o byllau dŵr Prydain wedi’u colli dros y can mlynedd diwethaf. Rydyn ni wedi creu cynefinoedd gwlyptir newydd sy’n amrywio o ran dyfnder ac wedi ailbroffilio’r suddfannau dŵr oedd yno. Mae ein pyllau dŵr yn adnodd bioamrywiaeth unigryw ac yn gyfoethog o ran rhywogaethau planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac amffibiaid.

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson.